Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 20 Hydref 2015
Amser: 09.01 -
11.06
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3267
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Andrew RT Davies AC (yn lle Mohammad Asghar (Oscar) AC) Alun Ffred Jones AC (yn lle Jocelyn Davies AC) |
Tystion: |
Jeremy Green, Lambert Smith Hampton Ltd Lee Mogridge, Lambert Smith Hampton Ltd |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Alistair McQuaid (Swyddfa Archwilio Cymru) Nick Tyldesley (Prisiwr Dosbarth) Mike Usher (Swyddfa Archwilio Cymru) Huw Vaughan Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru) |
1.1 Ystyriodd Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Hydref.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar. Dirprwyodd Andrew R T Davies ar ei ran.
2.3 Esgusododd Jocelyn Davies ei hun o dan Reol Sefydlog 18.8. Dirprwyodd Alun Ffred Jones ar ei rhan.
2.4 Mae’r datganiadau o ddiddordeb a wnaed yn y cyfarfod ar 12 Hydref yn berthnasol i’r cyfarfod hwn.
3.1 Nodwyd y papurau.
4.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Jeremy Green a Lee Mogridge o Lambert Smith Hampton Ltd fel rhan o’r ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.
4.2 Cytunodd Jeremy Green a Lee Mogridge i anfon y wybodaeth a ganlyn at y Pwyllgor:
· Gwirio a chadarnhau’r dyddiadau y gwnaethant gyfarfod â swyddogion cynllunio o Gyngor Dinas Caerdydd a Chyngor Sir Fynwy a chyflwyno unrhyw ohebiaeth berthnasol;
·Gwirio a gafodd yr holl ddiddordeb a ddangoswyd gan brynwyr posibl ei gyfleu i Fwrdd CBCA ac yn benodol y diddordeb a ddangoswyd gan Legat Owen, a phryd y gwnaed hynny;
·Manylion y cyfarfodydd a gynhaliwyd gyda’r prynwr arfaethedig rhwng mis Chwefror 2011 a mis Mawrth 2012;
·Gwiriwch pryd y sefydlwyd perthynas gyda Mr Langley Davies, pwy o LSH oedd yn gweithredu ar ei ran ac ym mha swyddogaeth ac ar ba brosiectau eraill (lle y mae’n Gyfarwyddwr);
·Darparu e-byst a gohebiaeth arall gyda’r prynwr posibl pan awgrymodd y prynwr y byddai’n niweidiol i’w fuddiannau ac y gallai ragfarnu’r trafodion portffolio pe byddai’n cael ei orfodi i gynnal prisiad ffurfiol, ac
· Egluro pryd ddechreuodd LSH farchnata safle Trefynwy ar gyfer SWLD.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, nis cyrhaeddwyd yr eitem hon.